Ym mis Tachwedd 2021 clywodd y Rhwydwaith Cydgysylltu Ardaloedd Lleol gan Dee, un o drigolion Efrog sydd wedi bod ochr yn ochr â Chydlynydd Ardal Leol ac sydd wedi bod yn cefnogi Cydlynu Ardaloedd Lleol ers sawl blwyddyn. Yn y cyfnod hwn mae Dee wedi delio â heriau yn ei bywyd a gyda Sarah, ei Chydlynydd Ardal Leol, ochr yn ochr â hi, mae'n parhau i archwilio sut beth yw ei bywyd da.
Mae stori Dee yn enghraifft go iawn o sut mae Cydlynu Ardaloedd Lleol a'r 10 egwyddor yn gallu cefnogi pobl i ddiffinio a chyflawni eu nodau ac adeiladu rhwydweithiau cymorth cryfach. Gyda Sarah ochr yn ochr â hi, mae Dee wedi ailgysylltu â'i chymuned ar ei chyflymder ei hun ac wedi goresgyn rhwystrau.
Ond nid y stori hon yw diwedd y naratif i Dee a Sarah o bell ffordd. Mae Cydlynwyr Ardal Leol yn gweithio heb derfynau amser, felly gall Sarah barhau i fod ochr yn ochr â Dee pan fydd yn teimlo ei bod am ailgysylltu, heb fod angen atgyfeiriadau a gwaith papur.
“Mae yna bŵer a hyder mawr mewn gwybod bod cymorth ar gael i chi ond hefyd gwybod mai chi sy’n gyfrifol am sut rydych chi’n derbyn y cymorth hwnnw.”
“Nid yn unig roeddwn i’n gallu mynd â fy mhlant i’r ysgol, ond roeddwn i hefyd yn gallu cymryd rhan yn fy ngrwpiau cymunedol. Roeddwn i’n gallu rhoi yn ôl i eraill yn y gymuned.”
Cliciwch yma i weld y fersiwn rhyngweithiol
Cliciwch yma i weld fersiwn pdf