
- Dinasyddiaeth – Mae gan bawb yn ein cymunedau yr un hawliau, cyfrifoldebau a chyfleoedd i gymryd rhan ym mywyd y gymuned a chyfrannu ato, gan barchu a chefnogi eu hunaniaeth, credoau, gwerthoedd, ac arferion.
- Perthynas – Teuluoedd, ffrindiau a rhwydweithiau personol yw sylfeini bywyd cyfoethog a gwerthfawr yn y gymuned.
- Awdurdod naturiol – Mae pobl a’u teuluoedd yn arbenigwyr yn eu bywydau eu hunain, mae ganddynt wybodaeth amdanynt eu hunain a’u cymunedau, ac maent yn y sefyllfa orau i wneud eu penderfyniadau eu hunain.
- Dysgu Gydol Oes – Mae gan bawb allu gydol oes i ddysgu, datblygu a chyfrannu.
- Gwybodaeth – Mae mynediad at wybodaeth gywir, amserol a pherthnasol yn cefnogi gwneud penderfyniadau gwybodus, dewis a rheolaeth.
- Dewis a rheolaeth – Unigolion, yn aml gyda chefnogaeth eu teuluoedd a rhwydweithiau personol, sydd yn y sefyllfa orau i arwain wrth wneud eu penderfyniadau eu hunain a chynllunio, dewis a rheoli cymorth, gwasanaethau ac adnoddau.
- Cymuned – Cyfoethogir cymunedau ymhellach gan gynhwysiant a chyfranogiad pawb a’r cymunedau hyn yw’r ffordd bwysicaf o feithrin cyfeillgarwch, cefnogaeth a bywyd ystyrlon.
- Cyfraniad – Rydym yn gwerthfawrogi ac yn annog cryfderau, gwybodaeth, sgiliau a chyfraniad pob unigolyn, teulu a chymuned.
- Cydweithio – Mae partneriaethau effeithiol gydag unigolion/teuluoedd, cymunedau a gwasanaethau yn hanfodol i gryfhau’r hawliau a’r cyfleoedd i bobl a’u teuluoedd gyflawni eu gweledigaeth ar gyfer bywyd da, cynhwysiant a chyfraniad.
- Natur gyflenwol gwasanaethau – Dylai gwasanaethau gefnogi ac ategu rôl unigolion, teuluoedd a chymunedau wrth gefnogi pobl i gyflawni eu dyheadau am fywyd da.